Mae'n 18 mis ers i ni ymweld ag Abercorran ddiwethaf ac mae trefniadau ysgariad a gwarchodaeth plant Faith ac Evan yn mynd o ddrwg i waeth. Mae Faith yn ceisio cadw'n bositif wrth fod yn fam ac yn gyfreithwraig sy'n delio ag achos newydd, pan mae rhywun o'i gorffennol yn ymddangos ac yn peryglu ei dyfodol.
Pennod olaf y gyfres: Mae cynllun Rose yn dwyshau ac felly mae Faith yn gorfod ymladd am bopeth sy'n bwysig iddi. All hi ennill y blaen ar Rose neu oes gan honno fwy o asgwrn cefn na mae Faith yn ei gredu' Naill ffordd, mae bywyd yn dod â chanlyniadau annisgwyl i Faith wrth iddi edrych tua'r dyfodol.