Rhaglen gyffrous sy'n rhan o wythnos yn dathlu traethau Cymru. Stuart a Siân o Gwynedd yw'r cwpl lwcus sydd wedi ennill y cyfle i briodi'n fyw ar draeth ar S4C. Ar ôl ennill pleidlais genedlaethol nid oes gan y pâr lais dros unrhyw un o fanylion eu diwrnod mawr ac mae'n rhaid iddynt ymddiried y bydd eu ffrindiau, eu teulu ac Emma a Trystan y cyflwynwyr yn trefnu'r briodas berffaith am £ 5K.