Mae Llinos ac Elin ar shifft n¿s brysur yn yr Uned Frys, Ysbyty Gwynedd, Bangor yn trin cleifion gydag amryw o afiechydon o risg sepsis i dorri cefn. Ac yn ardal y Rhondda, mae Carys, nyrs gymunedol sy'n teithio o amgylch yn ymweld â'i chleifion yn eu cartrefi.
Nyrsys - rydym yn dibynnu ar y dynion a menywod ymroddedig yma i ofalu amdanom ni o ddechrau ein bywydau tan y diwedd. Ond gydag un mewn tri nyrs yn gadael y swydd, mae 'na straen ar y nyrsys sydd ar ôl yn ysbytai Cymru. Mewn cyfres newydd sbon, cawn glywed gan nyrsys mwyaf profiadol y wlad, a'r rhai sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa, am eu profiadau. Y tro hwn, awn i Ganolfan Ganser Felindre, Caerdydd ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, i weld y gwaith da.
Nyrsys - rydym yn dibynnu ar y dynion a menywod ymroddedig yma i ofalu amdanom ni o ddechrau ein bywydau tan y diwedd. Ond gydag un mewn tri nyrs yn gadael y swydd, mae 'na straen ar y nyrsys sydd ar ôl yn ysbytai Cymru. Mewn cyfres newydd sbon, cawn glywed gan nyrsys mwyaf profiadol y wlad a'r rhai sy'n newydd ddechrau ar eu gyrfa am eu profiadau. Y tro hwn, awn i Ysbyty Gwynedd Bangor, ac Adran Gofal Lliniarol Arbennig Penglais, i weld y gwaith da.