Ymunwch a'r ddysgwraig Ruth Jones a'i ffrind Gillian Elisa wrth iddynt deithio ar draws Cymru.
Y darlledwr a'r dysgwr Adrian Chiles, a Steffan Powell o Radio 1, sy'n teithio ar draws Cymru.
Y tro hwn: Scott Quinnell a'i ffrind Sarra Elgan sy'n teithio Cymru yn gwneud sialensau ieithyddol.
Y tro hwn, bydd Carol Vorderman, Colin Jackson, Ruth Jones, Adrian Chiles a Scott Quinnell yn ymgynnull am barti 'Dolig i ddathlu eu siwrne.
Yr anturiaethwr Steve Backshall sy'n paru fyny gyda Iolo Williams.
Ym mhennod dau, dwy actores, Rakie Ayola ac Eiry Thomas, sy'n mynd â'r Iaith ar Daith.
Y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol James Hook a'r dyfarnwr byd-enwog Nigel Owens sy'n paru fyny.
Y tro hwn gyda chyn-reolwr tîm pel-droed Cymru, Chris Coleman, a'r cyn-beldroediwr Owain Tudur Jones.
Y tro hwn, y comediwyr Kiri Pritchard-McLean a Maggi Noggi sy'n mynd â'r Iaith ar Daith.
Diwedd y gyfres, a'r actorion Joanna Scanlan a Mark Lewis Jones sy'n teithio Cymru.
Cyfle i edrych nol ar daith iaith Steve Backshall, Rakie Ayola, James Hook, Chris Coleman, Kiri Pritchard-McLean a Joanna Scanlan.
Cyfres newydd. Y Parch Kate Bottley a'i mentor, y darlledwr-gyflwynydd Jason Mohammed, sy'n teithio Cymru efo'r nôd o helpu Kate i ddysgu'r iaith.
Tro ma: gyda'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a'r anturiaethwr Richard Parks, a'i fentor y rhedwr marathon ultra a'r cyflwynydd Lowri Morgan.
Y tro hwn, y comedïwyr a'r ffrindiau agos Mike Bubbins ac Elis James sy'n teithio Cymru gyda'r nôd o helpu Mike i ddysgu Cymraeg.
Yr actores o Casualty, Amanda Henderson, a'r actores Mali Harries, sy'n paru fyny am y dasg fawr.
Y DJ Katie Owens a'i mentor, y cyflwynydd amryddawn Huw Stephens, sy'n teithio Cymru gyda'r nôd o helpu Katie i ddysgu Cymraeg.
Tro ma, dawnswraig 'Strictly', Amy Dowden, sy'n ceisio dysgu Cymraeg, gyda help ei mentor, y cyflwynydd a'r canwr Aled Jones.
Yr arwr pêldroed Joe Ledley sy'n teithio Cymru efo'r cyflwynydd radio a theledu, Dylan Ebenezer.
Yn cadw cwmni i actores Jessica Hynes ar hyd ei thaith mae'r actores Lisa Palfrey, a ceir sawl her o Fachynlleth i Llanelian!
Y DJ a'r gantores Aleighcia Scott sy'n mynd â'r iaith ar daith gyda'r actores Mali Ann Rees.
Neet Mohan, yr actor o Casualty, sy'n mynd â'r iaith ar daith drwy Gymru gyda'i ffrind a'i gyd-actor Llyr Evans.
Tro hwn y cyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol a'r ffrindiau Adam Jones a Mike Phillips sy'n taclo'r Gymraeg.
Olaf y gyfres. Y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n serennu y tro hwn.
Y cyn-chwaraewr rygbi, Josh Navidi, sy'n dysgu Cymraeg tro hwn efo help ei ffrind Ken Owens.
Yr actores Kimberly Nixon sy'n mynd â'r Iaith Ar Daith gyda help yr actor Matthew Gravelle.
Y digrifwr o Majorca, Ignacio Lopez, sydd a'r her o ddysgu Cymraeg tro ma, efo help y comediwr Tudur Owen.
Ian 'H' Watkins o Steps sydd yn mynd â'r Iaith Ar Daith y tro ma efo help y gantores Bronwen Lewis.
Yr actor ffilm a theledu Paul Rhys sy'n dysgu Cymraeg tro ma efo help ei ffrind Dyfan Dwyfor.
Yr arwr pêl-droed Jess Fishlock sy'n mynd ar Iaith Ar Daith gyda help y gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd.
Y cyn-chwaraewr rygbi Alun Wyn Jones sy'n dysgu Cymraeg efo help yr actor Steffan Rhodri.
Yr actor Callum Scott Howells sy'n dysgu Cymraeg efo help yr actor/cerddor Lisa Jên.
Yr actores Melanie Walters sy'n ail-gysylltu gyda'i gwreiddiau a'r Gymraeg, gyda help ei ffrind, yr actores Donna Edwards.