Cychwyn cyfres dau, sy'n dilyn staff a chleifion Canolfan Iechyd Blaenau Ffestiniog yn ystod y gaeaf.
Dr Gwynfor Evans sy'n delio â phoenau yng nghlun Dylan; cawn stori Glenys, aelod diweddaraf y Grwp Atal Syrthio; & mwy
Dr Tom Parry a'r tîm sy'n delio â phyliau o banig merch ifanc; yn dysgu mwy am afiechydon ecsotig; a llawer mwy.
Mae Dr Gwynfor yn mynd i'r afael ag anaf diweddar chwaraewr rygbi lleol a Iolo yr Uwch Barafeddyg sy'n ymweld â fferm Llywelyn.
Mae'r eira'n disgyn ym Mlaenau - ac mae gan Dr Tom Parry newyddion i Alistair, tra bod y tîm Nyrsio Cymunedol yn galw ar ddynes 100 oed.
Mae Nyrs Carol yn tynnu pwythau Gareth, a Dr Tom yn cynghori gwr sy'n methu cynnal codiad.
Mae aelodau'r grwp cadw'n heini yn rhoi cynnig ar focsio, a does dim angen i'r deintydd frwydro i gael Cedri yn y gadair.
Mae'n ddiwrnod cynta Terry yn y grwp Cymorth Dementia ac wrth i Dr Tom drio datrys problemau toiled David mae Dr Gwynfor yn rhoi cyngor i chef ifanc sy'n smygu.