Cyfres gomedi gyda'r digrifwr Elis James yn edrych ar y teipiau a'r stereoteips sy'n ein diffinio ni fel Cymry, gyda sgetsus a chlipiau doniol.
Mae cwpwrdd tlysau Cymru'n llawn ac ry ni'n hoffi gosod ein pencampwyr chwaraeon ar bedastl: y digrifwr Elis James sy'n cymryd cipolwg.
Yng Nghymru ni byth mwy na llathen o ffarmwr: o'r ffermwyr ifanc i'r ffermwyr hipster neu draddodiadol mae Elis James yn taclo pawb!
Mae pawb yn meddwl eu bod nhw'n nabod y fam Gymreig, ond sut mae diffinio'r enigma yma? Elis James sy'n cymryd cipolwg.
Hyfforddwyr seicotig, beirniaid dan fygythiad a ser opera sy'n casau canu: daw ein byd perfformio dan chwyddwydr Elis James.
Y digrifwr Elis James sy'n edrych ar y stereoteips yn ein operau sebon fel Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Dinas.