Mae wyth o blant yn gadael eu cartrefi dinesig ac yn teithio i Lanuwchlyn yn 1939, eu cartref newydd am y tro. Mae hi'n newid byd mawr a'r peth cyntaf sydd rhaid iddyn nhw wneud yw dysgu ychydig o Gymraeg.
Ym mhennod nesa'r gyfres, mae'r plant yn blasu bywyd ysgol yng Nghymru wledig y 1940au, ac mae bygythiad y rhyfel yn cyrraedd eu hardal.
Yn y rhaglen hon bydd y plant yn dysgu bod y rhyfel wedi bod yn brofiad gwahanol i fechgyn a merched. Bydd y merched yn cael tro ar yr ymgyrch ddillad 'Make do and Mend' a'r bechgyn yn gwneud ymarferion y gwarchodlu cartref.