Mae Cadi - y gyrrwr trên - mewn trafferth pan fydd dwy ddraig ifanc yn mynd â'i hinjan stêm am daith heb ganiatâd. Ond pan na allant stopio'r injan, a all Cadi ddod i'w hachub neu a fydd yn rhaid iddynt ddefnyddio eu pennau neu ryw ran arall o'r corff?
Mae coch yn lliw sy'n siwtio draig go iawn ond pan mae Bledd a Cef yn darganfod ei fod, ar y rheilffordd, yn cynrychioli perygl, maen nhw'n meddwl efallai bod pobl yn meddwl eu bod nhw'n beryglus hefyd.
Pan nad oes dwr ar gyfer yr injans, ni allant wneud stêm ac ni all y trenau redeg. Daw Cadi i'r adwy a gyda chymorth ei Dreigiau, Bledd a Cef, aethant ati i ddatrys y broblem.
Pan mae problem gyda rheiliau poeth, a all y Dreigiau eu hoeri mewn pryd?
Mae'r Dreigiau mewn picl pan fydd angen iddynt newid amserlen y rheilffordd.
Tra bod y dreigiau eisiau chwarae cuddio mae gan Caddy brawf gyrru pwysig ar y rheilffordd, felly gan na all hi ddod atyn nhw, maen nhw'n penderfynu mynd â'r gêm iddi hi.
Pan aiff Cadi ar goll, mae angen i'r dreigiau ei hachub.
Pan nad oes unrhyw ffordd o goginio selsig, mae'r Chef Cef yn dod i'r adwy!
Mae'r Dreigiau yn ailgylchu hen ddillad i addurno'r orsaf ar gyfer priodas.
Pan fydd mellt yn taro, mae'r dreigiau angen cario negeseuon yn ôl a 'mlaen ar y rheilffordd.
Ar ôl cael ei fesur, mae Bledd yn deffro i ddarganfod efallai ei fod wedi tyfu gormod.
Mae Crugwen yn ymddeol ac mae Cadi a'r dreigiau yn trefnu parti ffarwelio syrpreis iddi.