Rhagflas o Creisis
Mae Jamie yn nyrs seiciatryddol o Bontypridd a'i fywyd yn dadfeilio. Wrth i'r tensiynau adref ac yn y gwaith ddechrau fynd yn drech nag e, at bwy fydd e'n troi; at ei deulu, neu at Barry, yr hen ffrind sy'n hoffi ei dynnu tuag at y tywyllwch'
Mae pecyn o gyffuriau wedi mynd ar goll yn yr uned ac mae Jamie yn chwilio ledled Pontypridd am bacedi newydd ¿ ond pam bod e mor awyddus i'w ffeindio' Beth mae Jamie'n guddio'
Mae diwrnod y cwest wedi cyrraedd ac mae Jamie'n gwneud penderfyniad mawr i fod yn gwbl onest yn y llys.
Mae Jamie'n torri'r rheolau yn ei ymgais i ofalu am Paula. Rhaid iddo dod o hyd i'r unig beth mae e'n wybod wneith dawelu ei meddwl hi.
Penderfyna Jamie droi dudalen newydd fel dyn sengl - adref ac yn y gwaith - ond am ba mor hir all y Jamie newydd ymdopi?
Mae Jamie a Paula ar ffo o'r uned greisis. Maen nhw mewn cae diarffordd a does gan Paula ddim cof sut y cyrhaeddodd hi yno.