Mae gan Ellie Bateman, yn ôl pob golwg , y bywyd perffaith ' gyrfa llwyddiannus, gwr cariadus, merch fach annwyl yn ogystal â grwp agos o ffrindiau sy'n meddwl y byd iddi. Pan fydd drasedi annisgwyl yn dryllio eu bywydau i ddarnau, mae Ellie'n gwbod taw yr unig ffordd i oroesi yw i ddianc. A ddaw hi byth nôl-neu a wnaiff ddewis colli ei hun mewn storm berffaith sy allan o'i reolaeth'
Mae Ellie yn darganfod ei hun ymhell o adre ac ymhellach fyth oddi wrth y bywyd a adnabyddai ddoe. Yng ngolau dydd, mae'n gwybod bod yn rhaid iddi fynd nôl - ond sut y gall hi wynebu'r bobol mae'n eu caru ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd' Anghofio yw'r unig ffordd ' ond dyw anghofio ddim yn hawdd pan fo euogrwydd a cywilydd yn eich poenydio i'r craidd.
Mewn aflonyddwch mae Ellie yn gorfodi ei hun i dderbyn y 'Normal Newydd' gan obeithio bydd ei gwaith fel llawfeddyg yn tynnu ei sylw yn ddigon hir i oroesi diwrnod arall. Ond, fel addict, mae'n cael ei thynnu gan berygl a swyn yr aff¿r. Wrth i'r bobl agosaf ati ddechrau gweld y craciau, fe wyr Ellie ei bod hi'n chwarae gêm beryglus, ond mae'n gêm sy'n anodd iawn iddi osgoi.
Dechreua Ellie weld yr effaith mae ei bywyd cudd yn ei gael ar ei theulu. Synhwyra bod Menna yn teimlo'r newid ynddi. Gyda'i heuogrwydd fel bom ar fin ffrwydro, gwnaiff Ellie ei gorau glas i unioni pethau. Ond cael ei dal allan yw'r lleiaf o'i gofidiau wrth i feddyliau ymwthiol darfu ar ei meddwl - gweledigaethau sy'n aflonyddu a gwyrdroi realiti ac yn peri iddi gwestiynu ei hiawn phwyll.
Ar ôl rhoi stop ar yr affêr, mae Ellie'n gobeithio symud ymlaen a dechrau trwsio rhai o'r perthnasoedd yn ei bywyd. Bellach ar absenoldeb gorfodol o'r gwaith, mae ganddi amser i fyfyrio, wynebu ei phroblemau a gwella eto. Ond ymddengys nad yw'r berthynas eisiau diflannu mor hawdd â hynny - nid yw Richard yn mynd i unrhyw le heb frwydr. Ar ben hynny, mae Mart eisoes yn gwybod am 'y dyn arall' - a fydd o'n mynd at Ellie am hyn, neu a fydd y dieithryn yn creu twrw cyn iddo gael cyfle'
Ar ôl cyffesu i'w haffêr gyda Richard a gadael Mart a'r cartref teuluol, mae Ellie yn derbyn tecst oddi wrth rhif anhysbys - llun ohoni hi ac Ems yn cusanu. Fe wyr nad yw'r gêm ar ben o bell ffordd a bydd yn rhaid iddi frwydro'n arw cyn iddi golli popeth - ond beth mwy y mae Richard eisiau ganddi'